Yn galw ar bob person creadigol 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro! 

Mae Creu ein Dyfodol yn gyfle creadigol newydd cyffrous gan y Prosiect Power Up!  Rydym yn gwahodd pobl ifanc ar draws yr ardal i gyflwyno gwaith celf sy’n anelu at ateb y cwestiwn

‘Beth yw eich gobeithion ar gyfer dyfodol lles pobl ifanc yng Nghymru?’

Mae pedwar categori ar gyfer ceisiadau:

  • Barddoniaeth
  • Straeon byrion (uchafswm o 500 o eiriau)
  • Darluniadau
  • Paentiadau
  • Crochenwaith
  • Cerfluniau
  • Gosodiadau
  • Fideo
  • Ffotograffiaeth

Y gwobrau:

  • Bydd yr holl ddarnau celf a gyflwynir yn cael eu dangos yn ein gŵyl diwedd blwyddyn ym mis Mehefin.
  • Bydd pob darn o gelf yn cael ei gynnwys mewn antholeg a fydd yn cael ei argraffu i ddathlu’r gystadleuaeth.
  • Gwobrau taleb o £100 ar gael i safle 1af ym MHOB categori
  • Bwndeli lles Platfform ar gyfer safle 1af, 2il, 3ydd ym MHOB categori
  • Cyfle am ragor o waith artistig cyflogedig o fewn y prosiect Power Up ar gyfer safle 1af, 2il, 3ydd ym MHOB categori.

Cysylltu

Cysylltwch â powerup@platfform.org i ddarganfod rhagor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.