Skip to content

Gwybodaeth i Oedolion Dibynadwy – Abertawe, Castell-Nedd a Phort Talbot

Canolfan iechyd meddwl a lles i bobl ifanc 11-17 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot yw’r Hangout. Rydyn ni’n cael ein rhedeg gan yr elusen Platfform ac rydyn ni’n cael ein hariannu gan Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Amserlenni a Gwybodaeth Gyswllt

Rydyn ni ar agor bob dydd Llun – dydd Iau, 3.30pm – 7.30pm.

Mae dyddiau lle mae gofod cymdeithasol ar gael wedi’u rhannu yn ôl oedran, ond gall pobl ifanc o unrhyw oedran gael mynediad at gymorth 1-1 ar unrhyw ddiwrnod.

DyddOriau AgorGofod cymdeithasol ar gael
Dydd Llun3.30pm – 7.30pmGalw heibio 1-1, gofod cymdeithasol i blant 11-13 oed.
Dydd Mawrth3.30pm – 7.30pmGalw heibio 1-1, gofod cymdeithasol i blant 14-17 oed.
Dydd Mercher3.30pm – 7.30pmGalw heibio 1-1, gofod cymdeithasol i blant 11-13 oed.
Dydd Iau3.30pm – 7.30pmGalw heibio 1-1, gofod cymdeithasol i blant 14-17 oed.

Pwy all gael mynediad i’r Hangout?

Does gan yr Hangout ddim meini prawf ffurfiol y mae angen i bobl ifanc eu bodloni i gael mynediad atom ni. Rydyn ni’n lle ‘mynediad agored’ oherwydd ein bod yn gwybod y gall pawb elwa o gymorth iechyd meddwl a lles ar ryw adeg neu’i gilydd. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un o 11 oed hyd eu pen-blwydd yn 18 yn Abertawe, Castell-nedd a Port Talbot ddod atom ni.

Os ydyn ni’n teimlo y gallai person ifanc elwa o gael cefnogaeth ychwanegol yn ogystal â’r Hangout, mae gennym brosiect arall yn Platfform o’r enw’r prosiect ‘Cwnsela Ysgol yn Abertawe’ sy’n cynnig cefnogaeth a chwnsela lles 1 i 1 mwy strwythuredig trwy sesiynau wythnosol, a gallwn gyfeirio at hwn yn fewnol. Os oes angen, gallwn hefyd gyfeirio at sefydliadau eraill fel CAMHS, Hybiau Cymorth Cynnar, neu’r Tîm Argyfwng am gymorth ychwanegol.

Er nad oes gennym feini prawf ar gyfer mynediad, nid gwasanaeth clwb ieuenctid ydym ni. Rydyn ni’n annog pobl ifanc i archwilio lleoliadau cymunedol eraill os mai chwilio am le i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwaith ieuenctid yn gyffredinol maen nhw.

Diogelu a Chyfrinachedd

Mae ein tîm wedi’i hyfforddi i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac mae’n gallu cefnogi pobl ifanc trwy beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw. Er ein bod ni’n cadw’r rhan fwyaf o’r pethau y mae pobl ifanc yn siarad â ni amdanyn nhw’n gyfrinachol, os byddwn yn poeni y gallai person ifanc fod mewn perygl o niweidio ei hun neu eraill yna byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon. Gall hyn fod gydag oedolyn gartref neu yn yr ysgol, neu gyda gwasanaethau eraill fel Adran Damweiniau ac Achosion Brys, y cyngor lleol, neu’r heddlu. Pan fo modd, caiff hyn ei drafod gyda’r person ifanc ymlaen llaw.

Gall pobl ifanc hefyd ofyn i ni rannu gwybodaeth gydag oedolion gwahanol yn eu bywydau. Rydyn ni’n hapus i wneud hyn.

Os yw person ifanc yn profi argyfwng iechyd meddwl, rydyn ni’n helpu i’w cadw’n ddiogel trwy wneud cynllun diogelwch, ac yn eu hannog i’w rannu ag oedolion gartref. Rydyn ni’n cynnal asesiadau risg os ydyn ni’n teimlo bod person ifanc mewn perygl o niwed. Os yw person ifanc mewn argyfwng a heb fod yng nghwmni oedolyn diogel, byddwn yn cysylltu â’u person cyswllt brys i’w casglu.

Rydyn ni’n annog pobl ifanc i aros yn yr Hangout am hyd eu harhosiad yn hytrach na mynd a dod, fel bod ein staff yn gwybod ble maen nhw. Dydyn ni ddim yn cysylltu â rhieni na gofalwyr i’w hysbysu fod pobl ifanc wedi cyrraedd neu adael fel mater o arfer. Os ydych chi’n teimlo bod hyn yn angenrheidiol, gallwn wneud trefniadau yn dilyn trafodaeth gydag aelod o’r tîm.

Cwestinynau Cyffredin

Beth ydych chi’n ei wneud ar gyfer y rhai sy’n troi’n 18 oed?
Mae ein prosiect partner, Cwnsela Ysgol yn Abertawe, yn cefnogi pobl ifanc hyd at 19 oed yn Abertawe. Yn y cyfnod cyn i berson ifanc droi’n 18 oed, cynigir cymorth iddyn nhw drosglwyddo i’r prosiect hwn os oes angen amdano. Dydyn ni ddim yn gorffen yn sydyn gyda phobl ifanc ar ddiwrnod eu pen-blwydd.

Am resymau diogelu, dydyn ni ddim yn caniatáu i bobl 18 oed a hŷn gael mynediad i’n gofod cymdeithasol. Os yw’r rhai dros 18 oed yn chwilio am leoedd i gysylltu, gallwn ni gefnogi trwy eu cyfeirio at sefydliadau eraill.

Ga i ddod i edrych o gwmpas, neu aros yn ystod sesiynau?
Rydyn ni’n fwy na bodlon dangos y lle i oedolion dibynadwy a gweithwyr proffesiynol.

Cewch hefyd aros yn y dderbynfa tra bod person ifanc yn eich gofal yn cael sesiwn 1-1, fodd bynnag, rydyn ni’n annog pobl ifanc i ddod yma’n annibynnol ar ôl y sesiynau cyntaf.

A gaiff pobl ifanc ddod ar eu pen eu hunain?
Cânt. Mae llawer o bobl ifanc yn dod i’r Hangout ar eu pennau eu hunain, yn enwedig ar ôl eu hymweliad cyntaf. Mae rhai pobl ifanc yn teithio yno ac yn ôl ar eu pennau eu hunain. Rydyn ni’n gallu eu cefnogi gyda chyngor teithio.

Pa fath o bethau allwch chi gefnogi pobl ifanc gyda nhw?
Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i wahanol bobl ifanc sy’n profi gwahanol heriau. Rydyn ni’n aml yn cefnogi pobl ifanc gyda phynciau fel bwlio, pryder, teimlo’n isel, hunan-niweidio, anawsterau gyda ffrindiau, heriau teuluol, amgylchiadau byw a mwy.

Nid yw cymorth yr un peth i bawb, felly gallwn drafod beth bynnag mae’r person ifanc ei eisiau. Os ydyn ni’n credu y byddai cefnogaeth gan dîm arall yn ddefnyddiol, fe fyddwn yn awgrymu hyn i’r person ifanc (a’u hoedolion dibynadwy os yw’n briodol) a gallwn gefnogi gyda chyfeiriadau tra byddan nhw’n ein defnyddio ni.

Oes gennych chi restr aros?
Na. Gall pobl ifanc gael cymorth gennym ni ar y diwrnod cyntaf y maen nhw’n ymweld. Os oes gofynion penodol ar gyfer cefnogaeth (megis amseroedd neu ddyddiau), gall gymryd ychydig o amser i ddarparu ar gyfer hyn, ond anaml y mae hyn yn cymryd mwy nag wythnos.

Ydych chi’n gallu gwneud diagnosis a rhoi presgripsiwn?
Os ydyn ni’n credu y gallai person ifanc elwa o ychydig o gefnogaeth ychwanegol neu benodol, gallwn gyfeirio ymlaen at y gweithwyr proffesiynol perthnasol.

Oes gennych chi unrhyw gefnogaeth i deuluoedd, rhieni neu warcheidwaid?
Na. Os ydych chi’n rhiant/warcheidwad sy’n chwilio am gymorth, cewch gysylltu â ni ar swanseahangout@platfform.org a gallwn eich cyfeirio at wasanaethau eraill yn yr ardal.