Mae’r Hangout yn ganolfan iechyd meddwl a lles i bobl ifanc 11-17 oed yng Nghaerdydd a’r Fro. Rydym yn cael ein cynnal gan yr elusen Platfform a’n hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Amserlenni a Gwybodaeth Gyswllt
Rydym ar agor bob dydd o’r wythnos, gan gynnwys gwyliau banc. Mae ein horiau agor ar gyfer y ddau safle (Y Barri a Chaerdydd) isod.
Mae dyddiau lle mae gofod cymdeithasol ar gael wedi’u rhannu yn ôl oedran, ond gall pobl ifanc o unrhyw oedran gael mynediad at gymorth 1-1 neu gymorth argyfwng ar unrhyw ddiwrnod.
| Dydd | Oriau agor | Gofod cymdeithasol ar gael | Lleoliad |
| Dydd Llun | 3pm – 9pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio; gofod cymdeithasol i blant 14-17 oed | Caerdydd a’r Barri |
| Dydd Mawrth | 3pm – 9pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio; gofod cymdeithasol i blant 11-13 oed | Caerdydd a’r Barri |
| Dydd Mercher | 3pm – 9pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio; grwpiau | Caerdydd a’r Barri |
| Dydd Iau | 3pm – 9pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio; gofod cymdeithasol i blant 14-17 oed | Caerdydd a’r Barri |
| Dydd Gwener | 3pm – 9pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio; gofod cymdeithasol i blant 11-13 oed | Caerdydd a’r Barri |
| Dydd Sadwrn | 12pm – 6pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio | Caerdydd yn unig |
| Dydd Sul | 12pm – 6pm | 1-1; cymorth argyfwng; galw heibio | Y Barri yn unig |
Pwy all gael mynediad i’r Hangout
Does gan yr Hangout ddim meini prawf ffurfiol y mae angen i bobl ifanc eu bodloni i gael mynediad atom ni. Rydyn ni’n lle ‘mynediad agored’ oherwydd ein bod yn gwybod y gall pawb elwa o gefnogaeth iechyd meddwl a lles ar ryw adeg neu’i gilydd. Mae hyn yn golygu y gall unrhyw un rhwng 11-17 oed yng Nghaerdydd a’r Fro ddod atom ni.
Os ydyn ni’n teimlo y gallai person ifanc elwa o rywfaint o gefnogaeth ychwanegol yn ogystal â’r Hangout, gallwn eu cyfeirio at sefydliadau eraill, trafod y person ifanc gyda’n Un Pwynt Mynediad (SPoA) EWMH (CAMHS gynt), neu gyfeirio/trafod yn uniongyrchol gyda Thîm Argyfwng EWMH.
Er nad oes gennym feini prawf ar gyfer mynediad, nid gwasanaeth clwb ieuenctid ydym ni. Rydyn ni’n annog pobl ifanc i archwilio lleoliadau cymunedol eraill os mai chwilio am le i gymryd rhan mewn gweithgareddau a gwaith ieuenctid yn gyffredinol maen nhw.
Gall pobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl gael mynediad i’r Hangout yn lle mynd i Damweiniau ac Achosion Brys (sylwer mai dim ond ar gyfer cymorth iechyd meddwl y mae hwn, ac nid ar gyfer cymorth/ymyrraeth feddygol. Os oes unrhyw risgiau meddygol corfforol wedi’u nodi, ewch i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys). Mae hyn yn golygu y gallant gael eu gweld gan un o’r tîm a nyrs argyfwng EWMH os oes angen mewn amgylchedd sy’n gyfforddus, yn gefnogol ac yn ddiogel. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda thîm argyfwng EWMH a’n Timau Damweiniau ac Achosion Brys i gadw pobl ifanc yn ddiogel a sicrhau bod ganddyn nhw weithwyr proffesiynol i’w cefnogi mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn.
Diogelu a Chyfrinachedd
Mae ein tîm wedi’i hyfforddi i gadw pobl ifanc yn ddiogel, ac mae’n gallu cefnogi pobl ifanc trwy beth bynnag sydd ei angen arnynt. Er ein bod ni’n cadw’r rhan fwyaf o’r pethau y mae pobl ifanc yn siarad â ni amdanynt yn gyfrinachol, os byddwn yn poeni y gallai person ifanc fod mewn perygl o niweidio ei hun neu eraill yna byddwn yn rhannu’r wybodaeth hon. Gall hyn fod gydag oedolyn gartref neu yn yr ysgol, neu gyda gwasanaethau eraill fel Adran Damweiniau ac Achosion Brys, y cyngor lleol, neu’r heddlu. Pan fo modd, caiff hyn ei drafod gyda’r person ifanc ymlaen llaw.
Gall pobl ifanc hefyd ofyn i ni rannu gwybodaeth gydag oedolion gwahanol yn eu bywydau. Rydyn ni’n hapus i wneud hyn.
Mae gennym fynediad at gofnodion iechyd pobl ifanc fel rhan o gytundeb rhannu gwybodaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, sy’n ariannu’r Hangout. Gallwn edrych ar gefnogaeth y mae pobl ifanc wedi’i chael yn y gorffennol os oes angen, a chysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill os ydym yn credu y gall hyn wella’r gefnogaeth sy’n cael ei rhoi i berson ifanc.
Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda thîm argyfwng EWMH a’n Timau Damweiniau ac Achosion Brys i gadw pobl ifanc yn ddiogel.
Os yw person ifanc yn profi argyfwng iechyd meddwl, rydym yn helpu i’w cadw’n ddiogel trwy wneud cynllun diogelwch, ac yn eu hannog i’w rannu ag oedolion gartref. Rydym yn cynnal asesiadau risg os ydym yn teimlo bod person ifanc mewn perygl o niwed. Os yw person ifanc mewn argyfwng a heb fod yng nghwmni oedolyn diogel, byddwn yn cysylltu â’u person cyswllt brys i’w casglu.
Rydym yn annog pobl ifanc i aros yn Yr Hangout am hyd eu harhosiad yn hytrach na galw heibio a mynd a dod, fel bod ein staff yn gwybod ble maen nhw. Nid ydym yn cysylltu â rhieni na gofalwyr fel mater o drefn i’w hysbysu fod pobl ifanc wedi cyrraedd neu adael. Os yw hyn yn rhywbeth rydych chi’n teimlo sy’n angenrheidiol, gellir ei drefnu yn dilyn trafodaeth gydag aelod o’r tîm.
Cwestiynau Cyffredin
- Beth ydych chi’n ei wneud ar gyfer y rhai sy’n troi’n 18 oed? Mae ein prosiect partner, Power Up, yn cefnogi pobl ifanc hyd at 25 oed. Yn y cyfnod cyn i berson ifanc droi’n 18 oed, cynigir cymorth iddynt i drosglwyddo i wasanaethau Power Up. Dydyn ni ddim yn gorffen yn sydyn gyda phobl ifanc ar eu pen-blwydd. Am resymau diogelu, nid ydym yn caniatáu i bobl 18 oed a hŷn gael mynediad i’n mannau cymdeithasol. Os yw’r rhai dros 18 oed yn chwilio am leoedd i gysylltu, mae Power Up yn cynnal grwpiau a gweithgareddau cymdeithasol.
- Ga i ddod i edrych o gwmpas, neu aros yn ystod sesiynau?
Rydym yn hapus i ddangos y lle i oedolion dibynadwy a gweithwyr proffesiynol.
Gallwch hefyd aros yn y lolfa neu’r gegin tra bod person ifanc yn eich gofal yn cael sesiwn 1-1, fodd bynnag, rydym yn annog pobl ifanc i ddefnyddio’r lle yn annibynnol ar ôl y sesiynau cyntaf. - A gaiff pobl ifanc ddod ar eu pen eu hunain?
Gallant. Mae llawer o bobl ifanc yn mynd i’r Hangout ar eu pennau eu hunain, yn enwedig ar ôl eu hymweliad cyntaf. Mae rhai pobl ifanc yn teithio yno ac yn ôl ar eu pennau eu hunain. Rydym yn gallu eu cefnogi gyda chyngor teithio. - Pa fath o bethau allwch chi gefnogi pobl ifanc gyda nhw?
Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth i wahanol bobl ifanc sy’n profi gwahanol heriau. Rydym yn aml yn cefnogi pobl ifanc gyda phynciau fel bwlio, pryder, teimlo’n isel, hunan-niweidio, anawsterau gyda ffrindiau, heriau teuluol, amgylchiadau byw a mwy.
Nid yw’r cymorth iawn yr un peth i bawb, felly gallwn drafod beth bynnag mae’r person ifanc ei eisiau. Os ydym yn credu y byddai cefnogaeth gan dîm arall yn ddefnyddiol, byddwn yn awgrymu hyn i’r person ifanc (a’u hoedolion dibynadwy os yw’n briodol) a gallwn gefnogi gyda chyfeiriadau tra maen nhw’n defnyddio ein gofod ni. - Oes gennych chi restr aros?
Na. Gall pobl ifanc gael cymorth gennym ni ar y diwrnod cyntaf y byddant yn ymweld. Os oes gofynion penodol ar gyfer cefnogaeth (megis amseroedd neu ddyddiau), gall gymryd ychydig o amser i ddarparu ar gyfer hyn, ond anaml y mae hyn yn cymryd mwy nag wythnos. - Ydych chi’n gallu gwneud diagnosis a rhoi presgripsiwn?
Na. Os rydym yn credu y gallai person ifanc elwa o rywfaint o gymorth ychwanegol neu benodol, gallwn ymgynghori â’n tîm Un Pwynt Mynediad a gwneud cyfeiriad proffesiynol. - Oes gennych chi unrhyw gefnogaeth i deuluoedd, rhieni neu warcheidwaid?
Ddim eto. Rydym wrthi’n datblygu ein cynnig cymorth i rieni/warcheidwaid. Yn y cyfamser, rydym yn cyfeirio teuluoedd, rhieni a gwarcheidwaid at wasanaeth cymorth rhieni a gomisiynwyd gan CAVUHB o Family Lives – Cymorth Llesiant Rhieni Caerdydd a’r Fro.
Rydym hefyd yn cyfeirio at y Porth i Deuluoedd yng Nghaerdydd. Gallwch gael cyngor am ddim yno, ac amrywiaeth o gymorth wedi’i deilwra i’ch amgylchiadau.