Coronafirws - beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Platfform yn gwneud ei ran i helpu i atal lledaeniad Coronafirws ac yn dilyn canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer cadw’n ddiogel yn ystod y cyfnod yma.

Bydd staff Platfform yn gweithio a adref lle sy’n bosib er mwyn cadw pob person yr ydyn yn gweithio gyda yn ddiogel. Gallwch gysylltu â ni o hyd trwy rifau ffôn ein swyddfa, e-bost a’r cyfryngau cymdeithasol.

Os oes angen help arnoch, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Platfform. Yn ddealladwy, mae hwn yn gyfnod o bryder mawr i lawer. Peidiwch â dioddef ar eich pen eich hun os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl.

Mae cefnogaeth ar gael o hyd; rydym ni, ynghyd â’r mwyafrif o elusennau eraill, ar gael o hyd, gan ddefnyddio gwahanol ddulliau wrth i ni chwarae ein rhan i leihau lledaeniad Coronafirws.

Gallwn hefyd fod yno ar gyfer ein gilydd, a lleihau pryderon y rhai o’n cwmpas. Meddyliwch yn greadigol am gysylltu â phobl mewn ffyrdd gwahanol. Meddyliwch sut y gallech chi helpu’ch cymdogion, a’r pobl fwy agored i niwed yn eich cymuned. Bydd caredigrwydd, i ni ein hunain ac i eraill, yn ein helpu ni i gyd trwy’r amser anodd hwn.

Os oes angen help arnoch ar hyn o bryd, cysylltwch â’r Samariaid trwy ffonio 116 123 neu trwy e-bostio jo@samaritans.org. Os ydych yng Nghymru, gallwch hefyd gysylltu â’r Llinell Gymorth Cymru C.A.L.L. ar 0800 132 737.

Er mwyn helpu i brosesu a lleihau eich pryder ynghylch Coronavirus, ewch i’r dudalen hon.

Ffyrdd o gael help

Os ydych chi’n teimlo mewn perygl, ffoniwch 999 neu ymwelwch â’ch adran achosion brys lleol.

Siaradwch â ffrind neu aelod o’r teulu dibynadwy

Defnyddiwch linell gymorth 24/7 – gweler y rhestr yn y paragraff isod

Ffoniwch eich meddyg teulu am apwyntiad brys. (Mewn argyfwng, dylid cynnig apwyntiad i chi gyda’r meddyg cyntaf sydd ar gael.)

Os ydych chi’n teimlo’n hunanladdol mae yna rai adnoddau gan bobl sydd wedi goresgyn teimladau a sefyllfaoedd tebyg y gellir eu canfod trwy Aros yn Ddiogel. Gallwch hefyd ffonio’r Samariaid ar 116 123.

Cofiwch na fydd teimladau llethol yn para am byth a gyda rhywfaint o gefnogaeth gallwch chi deimlo’n well.

Lleoedd i gael help nawr

Llinellau cymorth pwrpasol sydd bob amser ar agor, a lle gallwch siarad â rhywun yn gyfrinachol.

Y Samariaid: ar gael ar y ffôn 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Gallwch eu galw am ddim ar 116 123.

C.A.LL Helpline: yn cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar iechyd meddwl a materion cysylltiedig i bobl Cymru.

Young Minds: gallwch anfon neges testun at wasanaeth negeseuon Young Minds Crisis Messenger, am gefnogaeth 24/7 am ddim ledled y Deyrnas Unedig os ydych chi mewn argyfwng iechyd meddwl. Os oes angen help brys arnoch, tecstiwch YM at 85258. Atebir pob neges testun gan wirfoddolwyr hyfforddedig, gyda chefnogaeth gan oruchwylwyr clinigol profiadol.

Mae Young Minds hefyd yn cynnig llinell gymorth i rieni a gwarcheidwaid: 0808 802 5544.

Papyrus: ar gyfer pobl dan 35 a’r rhai sy’n eu cefnogi. Mae Papyrus yn cynnig Hopeline, a gellir cysylltu â’r llinell hon ar 0800 068 4141.

Childline: gwasanaeth cyfrinachol am ddim i unrhyw un dan 19 oed yn y DU i helpu gydag unrhyw fater rydych chi’n mynd drwyddo. Ffoniwch 0800 1111.

Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae Meic ar gael rhwng 8am a hanner nos, 7 diwrnod yr wythnos. Gallwch gysylltu â Meic dros y ffôn, e-bost, testun SMS a negeseuon gwib. Mae Meic yn gyfrinachol, yn anhysbys, am ddim, a dim ond i chi.

Help gyda meddyliau am hunanladdiad

Mae Staying Safe yn cynnig cydymdeimlad, caredigrwydd a ffyrdd i helpu i’ch cadw yn ddiogel rhag meddyliau am niweidio neu lladd eich hunain. Cewch gysur a gobaith am adferiad, trwy gyfrwng fideos pwerus gan bobl sydd â phrofiad personol.

Ewch i’r wefan.

Cwnsela

Gall therapïau siarad eich helpu chi i weithio trwy’ch teimladau a’ch amseroedd anodd y gallech fod yn eu profi.

Mae sesiwn gwnsela yn cynnwys therapydd hyfforddedig yn gwrando arnoch chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o symud tuag at adferiad iechyd meddwl cadarnhaol. Mae yna lawer o ddulliau cwnsela a gellir dod o hyd i wybodaeth am y rhain ar wefan Breathe.

Breathe yw canolfan gwnsela a lles Platfform sydd wedi’i lleoli yng Nghaerdydd. Os ydych chi wedi’ch lleoli mewn man arall yng Nghymru gallwch ddefnyddio’r cyfeirlyfr cwnsela hwn.

Help i rywun arall

Efallai nad ydych chi’n gwybod yn union sut mae rhywun yn teimlo ond gall cymryd yr amser i wrando ac egluro eich bod chi am helpu yn gallu wneud byd o wahaeniaeth i rywun sy’n gweithio trwy brofiad poenus.

Pan fydd rhywun yn teimlo ei fod wedi’i orlethu gan ei feddyliau neu ei amgylchiadau, gall fod yn anodd gweld ffordd allan. Atgoffwch nhw nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain ac y gallwch chi ddod o hyd i ffordd gyda’ch gilydd i gael y gefnogaeth gywir. Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli, gydag ychydig o help, y gallant oresgyn hyd yn oed yr amseroedd mwyaf poenus.

Beth allwch chi ei wneud i helpu

Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau i gael darlun cliriach o’r hyn y mae’r person ei eisiau er mwyn goresgyn argyfwng.

Mae sgwrs ofalgar mor bwysig, eglurwch eich bod chi eisiau helpu.

Peidiwch â lleihau sut maen nhw’n teimlo, byddwch yn agored, yn anfeirniadol, ac yn onest am eich pryderon.

Os ydyn nhw’n teimlo’n hunanladdol a’ch bod chi’n poeni am eu diogelwch, arhoswch gyda nhw a ffoniwch 999 neu ewch gyda nhw i adran achosion brys. Rhowch wybod i’r unigolyn am yr hyn rydych chi’n ei wneud a rhowch sicrwydd iddynt eich bod chi’n am gael help.

Rhannwch eich pryderon â pherthnasau, anwyliaid yr unigolyn – gwnewch yn siŵr eu bod yn cael cefnogaeth bob amser nes bod y teimladau wedi mynd heibio.

Ffoniwch eu meddyg teulu am apwyntiad brys neu rhowch gynnig ar y GIG yn uniongyrchol 0845 46 47 a 111 y tu allan i oriau

Ewch i wefan Staying Safe, gwyliwch rai o’r fideos gyda’ch gilydd i weld sut mae pobl wedi goresgyn teimlo’n hunanladdol ac ystyried cefnogi’r unigolyn i ysgrifennu cynllun diogelwch.

Arhoswch gyda’r unigolyn nes ei fod wedi derbyn y gefnogaeth gywir ac yn teimlo’n well, mae hyn yn cynnwys yr unigolyn rydych chi’n poeni am gael cefnogaeth ychwanegol neu asesiad gan berson â chymwysterau addas