HELO a Chroeso i Platfform4YP! Dim ots os gwnes di gyrraedd y dudalen hon trwy wefan Platfform, ffrindiau a theulu, cael dy gyfeirio ati, neu dim ond wrth chwilota’r we. Mae croeso iti yma! Mae Platfform4YP yn brosiect unigryw wedi’i greu’n llwyr gan bobl ifanc o bob rhan o Gymru sy’n angerddol dros iechyd meddwl ac yn arloesi i gynyddu ymwybyddiaeth a chreu newid cadarnhaol yn gyffredinol yn y sector.

Yma, fe weli di lwyth o bostiau blog ac adnoddau wedi’u creu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc ar amrywiaeth o bynciau; o gynghorion a gweithgareddau meddylgarwch i adolygiadau llyfrau, apiau a ffilmiau defnyddiol. Mae Platfform4YP wirioneddol yn blatfform i bobl ifanc i greu a rhannu beth bynnag y mynnan nhw, lle i’n lleisiau gael eu clywed, ac yn bwysicaf oll, dyma le i bobl ifanc deimlo wedi’u cefnogi a’u grymuso gan bobl eraill sydd naill ai wedi cael profiad bywyd o broblemau iechyd meddwl neu sy’n angerddol dros godi ymwybyddiaeth a chefnogi eraill.

Felly, cymer dy amser i ddefnyddio’r dudalen hon sut bynnag yr hoffet ti. Mae cynnwys newydd yn cael ei ychwanegu yma bob wythnos; felly dal ati i bicio draw i weld beth sy’n newydd yma! Hefyd, os hoffet ti weld mwy o gynnwys cadarnhaol a chalonogol, dilyn ni ar dy holl gyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol @Platfform4yp.

Mae pawb yn cael cyfrannu at benderfynu sut bydd hwn yn edrych (yn dy gynnwys di!) felly os rwyt ti’n teimlo fod gen ti rywbeth i’w rannu, neu os hoffet ti ddysgu mwy am y prosiect a sut galli gymryd rhan ynddo, anfona ebost at ein prif olygydd, Tom Evans: Tom.platfform4yp@gmail.com. Rydyn ni’n edrych ’mlaen at glywed gen ti!

Dyma rai dyfyniadau gan ein golygyddion yn egluro ychydig amdanyn nhw’u hunain a pham maen nhw eisiau bod yn rhan o’r prosiect:

Rwy’n hoff iawn o ffotograffiaeth a helpu pobl, a’r rheswm rwyf eisiau bod yn rhan o Platfform4YP yw am nad oedd unrhyw beth o’r fath ar gael pan roeddwn i’n cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, ac rwy’n meddwl y gall hwn fod yn

Chwaraewr gemau ydw i, sy'n hoff o hanes. Fel y rhan fwyaf o bobl ifanc, rwyf hefyd yn hoff iawn o ffilmiau a miwsig! Roeddwn i eisiau cymryd rhan yn y prosiect hwn oherwydd rwy’n meddwl fod y potensial ganddo i helpu llawer iawn o bobl

Prif diddordebau fi yw dawnsio, cerdded mynyddoedd a helpu eraill. Fy rhesymau dros cymryd rhan yn y prosiect yw gan ei fod yn helpu lleisiau pobl ifanc i gael eu clywed ym maes iechyd meddwl, ac i fod yn rhan o rywbeth anhygoel

Mae gen i andros o ddiddordeb mewn technoleg a chefndir o weithgareddau pynciau STEM a dylunio gwefannau. Rwyf eisiau bod yn rhan o'r brosiect er mwyn cynnig gollyngfa i bobl ifanc a gobeithio rhannu neges llawn gobaith gyda nhw, fel y gwnaeth i mi

Rwy’n 18 mlwydd oed, ac rwyf wedi ymuno â’r prosiect hwn yn ystod y locdown. Roeddwn i’n meddwl, trwy ymuno â’r prosiect, gallaf helpu pobl ifanc trwy’r pandemig a gobeithio parhau gyda’r gwaith unwaith daw’r pandemig i ben.