Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc 13 – 16 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot, gan ddefnyddio cyfuniad o gymorth un ac un, grwpiau cymorth cyfoedion a Rhaglen Meddwl am dy Feddwl. Cydweithiwn â Vibe Youth a Barod i gyflwyno gweithdai fel rhan o’r prosiect hwn.
Does dim angen diagnosis arnoch i gael help gan y prosiect – rydym yn gweithio gydag unrhyw un sy’n cael trafferth. Dydyn ni ddim yn ceisio ‘trwsio’ pobl. Byddwn yn gwrando ar gyfranogwyr ac yn gweithio gyda nhw i ganfod ffyrdd a strategaethau newydd sy’n helpu i hyrwyddo lles.
Bydd unrhyw un sy’n cymryd rhan hefyd yn cael cyfle i hyfforddi i ddod yn Fentor Cyfoedion Gwirfoddol. Mae mentoriaid yn gweithio gyda ni i lywio dyfodol y prosiect, gan sicrhau mai dyma’r union beth y mae ar bobl ifanc ei eisiau a’i angen.
Beth sy’n digwydd?
Grwpiau cyfoedion Cyfarfodydd wythnosol mewn amgylchedd diogel a hamddenol lle gallwch chi fod yn chi’ch hun a mynnu eich llais eich hun. Y rhai sy’n cymryd rhan sy’n penderfynu pa agweddau ar les maen nhw am eu trafod a faint yr hoffent ei rannu. Yn y grwpiau, byddwn yn cyflwyno gweithdai ar bynciau y mae’r bobl ifanc yn gofyn amdanynt, felly mae’n lle i ddysgu oddi wrth ein gilydd a chael hwyl wrthi!
Rhaglen lles Meddwl am dy Feddwl Deuddeg wythnos o raglen lles sy’n defnyddio cyfuniad o strategaethau i gefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Credwn fod gan bob person ifanc ei gryfderau cynhenid, ac mai trwy gysylltu â’r cryfderau hyn y mae positifrwydd a hyder yn dechrau tyfu.
Cymorth un ac un I bobl ifanc y mae angen ychydig o gymorth ychwanegol arnynt i fagu hyder i ymuno â’r rhaglen a’r grwpiau lles, gallwn gynnig hyfforddiant a chymorth un ac un.
Sut mae cymryd rhan
I gymryd rhan yn y prosiect, llenwch ein ffurflen atgyfeirio.
Cyswllt
I gael gwybod rhagor, cysylltwch â ni:
I gysylltu, gallwch e-bostio youngpeople@platfform.org
Neu ffoniwch: 01656 647722 / 07972631978