Canolfan sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl yw’r Hangout, lle galli alw heibio am gymorth lles, gofod cymdeithasol, digwyddiadau, grwpiau a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc 11-17 oed yn Abertawe, Castell-nedd a Phort Talbot.
Ble i ddod o hyd i ni
Pencadlys Platfform
Tŷ Beaufort, Heol Beaufort, Treforys
Abertawe, SA6 8JQ

Beth sydd yno?
- Cymorth iechyd meddwl wrth alw heibio (unrhyw bryd y byddwn ar agor!)
- Cymorth iechyd meddwl wedi’i drefnu (os yw’n well gennych wneud apwyntiad)
- Grwpiau lles
- Grwpiau creadigol
- Gwirfoddoli
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rydyn ni ar agor 3.30pm – 7.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau am gefnogaeth galw heibio. Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, fe alli di jyst troi fyny a holi unrhyw beth yr hoffet ti ei wybod.
Ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gall unrhyw un sy’n teimlo eu bod angen ychydig o gymorth ddod i siarad â ni, a gyda’n gilydd fe wnawn ni weld beth i’w wneud nesaf. Galli drefnu apwyntiad 1 i 1 ymlaen llaw neu droi fyny ar y diwrnod a gofyn am un.
Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol, neu wirfoddoli, rydyn ni’n cynnal gwahanol bethau ar wahanol ddiwrnodau ac maen nhw wedi’u rhannu yn ôl grŵp oedran i roi’r gefnogaeth orau i’n pobl ifanc. Mae dydd Llun a dydd Mercher ar gyfer plant 11-13 oed, a dydd Mawrth a dydd Iau ar gyfer plant 14-17 oed. Cysyllta i gael gwybod beth sy’n digwydd pryd, neu galli edrych ar Amserlen Hangout Abertawe a’r Castell-Nedd Port Talbot am ragor o wybodaeth.
Gwell gennych gynllunio ymlaen llaw?
Os byddai’n haws gen ti wneud apwyntiad ar gyfer unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud, mae hynny’n iawn hefyd. Cysyllta â ni ar swanseahangout@platfform.org ac fe wnawn ni gysylltu’n ôl!
Os wyt ti’n cael cymorth iechyd meddwl gan wasanaeth gwahanol, gall y person rwyt ti’n gweithio gyda nhw yno gysylltu â ni hefyd; anfona’r dudalen hon atyn nhw.
Sut mae cysylltu?
Galli alw heibio i’n gweld unrhyw bryd rhwng 3.30pm a 7.30pm o ddydd Llun i ddydd Iau. Neu os byddai’n well gen ti, mae croeso iti gysylltu yn gyntaf neu drefnu apwyntiad
E-bostia ni: swanseahangout@platfform.org
Ffoniwch ni: 07436 139075
Ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd meddwl
Os ydych chi’n gweithio gyda pherson ifanc rhwng 11 a 17 oed yr hoffech chi ei gyfeirio atom ni, gallwch gysylltu â ni yma swanseahangout@platfform.org