Mae tîm Lles Caerffili yn darparu lle diogel i deuluoedd gyfarfod a chael cymorth ar gyfer eu lles. Rhown gyfle i rannu profiadau gyda theuluoedd eraill sy’n wynebu heriau tebyg, datblygu strategaethau i fagu gwydnwch, a chael at rwydwaith o gymorth.
Gyda phwy ydyn ni’n gweithio?
Rydym yn gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili sy’n wynebu heriau iechyd meddwl. Efallai bod plentyn yn cael amser caled neu riant yn wynebu anawsterau. Beth bynnag sydd wedi digwydd, rydym yma i gynnig cymorth lles syml, di-lol i’r teulu cyfan.
Beth rydyn ni’n ei gynnig
Gallwn weithio gyda chi i archwilio beth allai helpu, gan gynnwys strategaethau i wella eich lles neu gefnogi eraill yn eich teulu a allai fod yn cael amser caled.
Gall rhieni, gofalwyr, plant a phobl ifanc gael cymorth unigol ar gyfer eu lles, cyn symud ymlaen i 6 wythnos o gwrs lles neu sesiynau unigol pellach os oes angen.
Bydd cymorth ar gael ar ffurf grŵp, cymorth un ac un a chymorth ar-lein. Bydd hyn yn unol â’ch anghenion chi a’ch teulu.
Cysylltu â ni
Ar gyfer teuluoedd
families@platfform.org 01495 245802
Gweithwyr proffesiynol, ar gyfer atgyfeiriadau
families@platfform.org 01495 245802 Panel Lles SPACE Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Plant – 0808 100 1727