Mewn cydweithrediad â’r NSPCC, mae’r Prosiect Diogelwch Ar-lein Plant yn brosiect cenedlaethol mwyhau ac ymgysylltu ag ieuenctid gyda’r nod o drafod profiadau a diogelwch ar-lein gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru, yn y gobaith o ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r rhai sy’n gyfrifol am ddeddfu diogelwch ar-lein.
Beth mae’n ei wneud?
Mae’r prosiect yn cynnal gweithdai ymgysylltu gyda phobl ifanc mewn ysgolion a grwpiau cymunedol lle gallant drafod eu barn a’u profiadau o ran diogelwch ar-lein, a’r pethau y gellir eu newid, yn eu barn nhw, i wella’r sefyllfa.
Mae grŵp cynghori ar-lein o bobl ifanc 11-18 oed yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu meddyliau a syniadau, ac yn helpu gweithwyr y prosiect i benderfynu ar gyfeiriad a datblygiad y prosiect.
Sut mae cymryd rhan?
Gall pobl ifanc a hoffai ymuno â’r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Ar-lein gysylltu â LaurenDavies@platfform.org i gael gwybod rhagor.