Cymrwch ychydig o amser
i chi eich hun
Mae’n rhywle ble gallwch adlewyrchu ar eich teimladau, darllen awgrymiadau ar edrych ar ôl eich lles, a dod o hyd i wybodaeth ar ble i fynd i gael mwy o help os oes angen.
Mae gennym ystod o adnoddau (i’ch helpu chi i oroesi’r adegau hynny pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch chi.
Gallwch weithio drwy bopeth ar eich cyflymder eich hun.
Mae eich lles yn bwysig – felly cymrwch ychydig o amser i chi eich hun.

Dros yr 18 mis diwethaf mae bywyd wedi bod i fyny ac i lawr. Mae pethau wedi bod yn arbennig o anodd i bobl ifanc, felly os ydych chi’n cael trafferth, cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Rhaglen ar-lein yw Prosiect Fi ar gyfer pobl ifanc rhwng 13 a 25 oed, i’ch helpu chi drwy’r adegau hynny pan fydd angen ychydig o gymorth ychwanegol arnoch er eich lles.
Byddwn yn eich tywys drwy ein cwis lles – bydd yn rhoi cyfle i chi i fyfyrio ar beth rydych chi’n ei wneud i gefnogi eich lles nawr, a pha newidiadau bychain y gallwch chi eu rhoi ar waith mewn meysydd penodol o’ch bywyd.
Chi fydd yn arwain y rhaglen, sy’n golygu y gallwch fynd drwyddo ar eich cyflymder eich hun. Hefyd, mae gennym lawer o wybodaeth ar ble gallwch ddod o hyd i ragor o gefnogaeth os oes angen.

Cwbwlhau’r cwis
Mae ein cwis lles yn ffordd syml o’ch helpu chi i weld pa feysydd o’ch bywyd all fanteisio ar ychydig mwy o hunanofal.
Rydyn ni’n edrych ar feysydd fel perthnasoedd positif, meddylgarwch, cymhelliant a sut gallwch chi roi camau bach ar waith i wella’r meysydd o’ch dewis!
Dyma ffordd wych i chi gymryd camau tuag at fyw bywyd wedi’ch grymuso fwy, a fydd yn talu ar ei ganfed.
Cymerwch selffi
Cymerwch selffi gydag un o’n rhagosodiadau hwyliog a rhannwch eich bod chi’n cymryd rhan yn #ProjectFi
