Mewn cyfnod o argyfwng
Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n cael eich hun neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn argyfwng? Yn gyntaf, mae angen i ni gydnabod bod hwn yn beth anodd ei drin a gall fod yn frawychus ac yn llethol iawn – byddwch yn garedig wrthych chi eich hun. Isod mae rhestr o linellau ffôn sydd wedi’u sefydlu i’ch cefnogi mewn cyfnod o argyfwng, gyda staff ar ben arall y llinell sydd wedi’u hyfforddi i’ch helpu.
Byddem bob amser yn eich annog i gysylltu â’r rhifau ffôn hyn os ydych chi’n pryderu am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun rydych chi’n ei adnabod, a hefyd ar adegau eraill pan fyddwch chi’n cael trafferth.
COFIWCH: os ydych chi’n bryderus iawn am ddiogelwch rhywun neu eich diogelwch eich hun, ffoniwch 999 a gofynnwch am help a chefnogaeth gan y gwasanaethau brys

Rhai pethau eraill y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw i sefydlogi eich hun neu ffrind mewn cyfnod o argyfwng
Gall hyn fod wrth i chi aros i gymorth gyrraedd neu i geisio dad-ddwysáu’r sefyllfa rydych chi ynddi.