Beth ydy o?

Mae’r Pecyn Cymorth Lles Pobl Ifanc yn rhannu popeth rydyn ni wedi’i drafod yn ystod y 3 blynedd diwethaf o redeg prosiect peilot Meddwl am dy Feddwl ledled Cymru.

Ariannwyd y prosiect gan Lywodraeth Cymru a chafodd popeth o enw’r prosiect i’r holl bynciau a ddewiswyd ei gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc 17-25 mlwydd oed.

Mae’r pecyn cymorth hwn yn gyfle i ni rannu popeth rydyn ni wedi’i ddysgu a allai eich helpu i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles bob dydd.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i rannu i’r adrannau canlynol:

  1. 10 ffordd i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles
  2. Sut i deimlo’n well (hunangymorth, helpu eraill a chanllaw ar gael gafael ar gymorth)
  3. Sut i fagu eich hyder
  4. Cariad a thosturi (tuag atoch chi eich hun ac eraill)
  5. Lles meddyliol i bawb
  6. Perthnasoedd drwy gydol ein bywydau
  7. Yr ymennydd yn ystod yr arddegau
  8. Beth i’w wneud mewn argyfwng