Mae dangos cariad tuag atoch chi eich hun yn golygu bod yn amyneddgar ac yn garedig tuag atoch chi eich hun.
Gall hyn fod yn arbennig o bwysig pan fyddwch chi’n ceisio cyflawni rhywbeth, ac mae angen i chi fod yn amyneddgar gyda chi’ch hun. Gall cymryd camau bach drwy dorri tasgau mawr yn rhannau symlach eich helpu i wneud cynnydd yn gyson.
Mae dangos cariad atoch chi eich hun yn cynnwys y ffordd rydych chi’n siarad â chi’ch hun; mae’n hawdd ac weithiau’n awtomatig beirniadu ein hunain yn fwy llym nag y byddem ni’n beirniadu unrhyw un arall. Ceisiwch ddod yn ymwybodol o’r ffordd rydych chi’n siarad â chi’ch hun, a allech chi ddangos mwy o garedigrwydd ac anogaeth i chi’ch hun fel y byddech chi’n ei wneud i ffrind? Mae angen ymarfer hyn ond mae’n werth yr ymdrech pan fyddwch chi’n gweld sut y gall wneud i chi deimlo.
Mae bod yn dosturiol tuag atoch chi eich hun hefyd yn golygu rhoi digon o amser i chi’ch hun ymarfer hunanofal. Mae hyn yn cynnwys helpu eich iechyd meddwl eich hun cyn helpu eraill. Mae dywediad defnyddiol yma: ‘allwch chi ddim arllwys o gwpan gwag’. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi’n cefnogi eich hun yn gyntaf, eich bod wedyn yn gallu cefnogi’r bobl o’ch cwmpas yn well.
Gall hunan-dosturi gynnwys gosod nodau realistig, a pheidio â phoeni gormod am gymharu eich hun ag eraill. Mae’n iawn parchu llwyddiannau rhywun arall, ond rydyn ni i gyd yn wahanol. Gall meddwl am sut bydd ein profiadau o fywyd yn amrywio fod yn bwysig wrth geisio dod yn fwy cariadus a thosturiol tuag atom ni ein hunain ac eraill.
Cofiwch ei bod yn debyg na wnaeth y pethau mae eich modelau rôl wedi’u cyflawni ddigwydd yn gyflym, ac mae’n debygol nad yw eu hamgylchiadau’r un fath â’ch rhai chi. Bydd bod yn ymwybodol hyn rydych chi ei angen i gyflawni eich nodau, a phwyso a mesur pa mor realistig ydyn nhw, yn eich helpu i osod ffiniau i chi’ch hun fel nad ydych chi’n gorflino neu’n teimlo fel eich bod wedi eich llethu.
Cofiwch hefyd efallai na fyddwn bob amser yn gwybod beth yw profiadau pobl, na beth maen nhw’n delio ag ef. Felly, er enghraifft, pan fydd ffrind bob amser yn hwyr i gyfarfod neu os nad yw’n ymateb i negeseuon testun yn aml iawn, ceisiwch beidio â theimlo’n isel neu fynd yn ddig, ond ystyriwch a allai ei iechyd meddwl neu ei amgylchiadau fod yn ffactor. Efallai y gallech feddwl am gynlluniau symlach a allai fod yn haws iddyn nhw eu rheoli neu ofyn a oes rhywbeth yr hoffent siarad amdano.