Dyma le iti fedru ddechrau rhoi trefn ar bethau a pharatoi ar gyfer dechrau derbyn cefnogaeth. Mae bod yn drefnus yn rhywbeth rydyn ni’n ei drafod yn aml yn y prosiect hwn, am ei fod yn un o’r elfennau sy’n perthyn i fyw bywyd iachach, mwy hamddenol.
Beth am roi cynnig ar gynllunio dy wythnos, fel dy fod yn gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn teimlo’n barod ar gyfer yr wythnos o dy flaen? Weithiau, pan fo llawer o bethau’n mynd ymlaen yn ein bywydau, gallwn deimlo fod pethau’n drech na ni a theimlo panig ynghylch cyflawni’r holl bethau rydyn ni am eu gwneud mewn wythnos. Wrth dorri’r wythnos i lawr i ddyddiau ac oriau, gall hyn leihau’r pryder a dy helpu i leihau’r teimlad bod pethau’n mynd yn drech na ti.
Galli ddefnyddio’r gofod ar y dudalen isod ym mha ffordd bynnag yr wyt ti eisiau, ond rydyn ni’n awgrymu iti gynnwys amser ar gyfer hunanofal, gan fod hynny’n rhywbeth rydyn ni oll yn anghofio amdano! Gall hunanofal gynnwys unrhyw beth: brwsio dy ddannedd, cael bath, mynd am dro, gwrando ar dy hoff gân, neu wylio ychydig o Netflix. Hunanofal yw beth bynnag rwyt ti’n ei wneud i edrych ar ôl dy hun a theimlo’n gyfforddus.