Yn galw ar bob person creadigol 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro!
Mae Creu ein Dyfodol yn gyfle creadigol newydd cyffrous gan y Prosiect Power Up! Rydym yn gwahodd pobl ifanc ar draws yr ardal i gyflwyno gwaith celf sy’n anelu at ateb y cwestiwn
‘Beth yw eich gobeithion ar gyfer dyfodol lles pobl ifanc yng Nghymru?’
Mae pedwar categori ar gyfer ceisiadau:
- Barddoniaeth
- Straeon byrion (uchafswm o 500 o eiriau)
- Darluniadau
- Paentiadau
- Crochenwaith
- Cerfluniau
- Gosodiadau
- Fideo
- Ffotograffiaeth
Y gwobrau:
- Bydd yr holl ddarnau celf a gyflwynir yn cael eu dangos yn ein gŵyl diwedd blwyddyn ym mis Mehefin.
- Bydd pob darn o gelf yn cael ei gynnwys mewn antholeg a fydd yn cael ei argraffu i ddathlu’r gystadleuaeth.
- Gwobrau taleb o £100 ar gael i safle 1af ym MHOB categori
- Bwndeli lles Platfform ar gyfer safle 1af, 2il, 3ydd ym MHOB categori
- Cyfle am ragor o waith artistig cyflogedig o fewn y prosiect Power Up ar gyfer safle 1af, 2il, 3ydd ym MHOB categori.
Cysylltu
Cysylltwch â powerup@platfform.org i ddarganfod rhagor neu os oes gennych unrhyw gwestiynau.