Rydyn ni gyd am deimlo’n fwy hyderus ar adegau. Gallai hyn olygu bod yn ddigon dewr i fod wir yn ni ein hunain o amgylch unrhyw un a phawb, neu deimlo ein bod yn gallu dweud pan fydd eu hymddygiad yn ein niweidio, neu allu dweud ‘na’ wrth bethau neu bobl. Ond pam gall y rhain deimlo fel pethau mor anodd eu gwneud?

Pan fyddwn ni’n meddwl am hyder, nid ydym bob amser yn cydnabod bod hyn hefyd yn golygu caniatáu i ni ein hunain deimlo’n agored i niwed, derbyn ein bod yn teimlo’n ofnus, a pheidio â barnu ni ein hunain amdano. Hyder yw’r gallu i gredu ynom ni ein hunain hyd yn oed pan fydd pethau’n anodd, neu pan fydd ofn arnom. Mae’n dod o wybod, beth bynnag fo’r sefyllfa, y byddwn bob amser yn dangos yr amynedd a’r ddealltwriaeth i ni ein hunain rydyn ni eu hangen i fynd drwy’r sefyllfa.

Os nad ydych chi byth yn teimlo’n ofnus, yna nid oes rhaid i chi fyth geisio bod yn hyderus – ni all un fodoli heb y llall. Os ydym ni’n hyderus, yna gallwn gyfaddef yr ofn hwnnw i ni ein hunain, heb adael iddo ein dal yn ôl rhag cyflawni’r pethau rydyn ni am eu cyflawni.

Os yw bod yn hyderus yn golygu caniatáu i ni ein hunain deimlo’n agored i niwed, gallai helpu i dynnu cryfder o ganolbwyntio ar rywbeth sy’n wirioneddol ystyrlon i ni. Gall gofalu amdanoch chi eich hun fod yn gam cyntaf i chi.

Cam da arall yw gofyn rhai cwestiynau syml i chi’ch hun am ddewrder:

  • Ar gyfer pa bethau ydych chi angen hyder?
  • Beth ydych chi’n ei werthfawrogi ddigon i geisio’i wneud, hyd yn oed os yw’n anodd neu’n frawychus?
  • Yn eich barn chi, beth yw’r pethau pwysicaf yn eich bywyd, neu yn y byd?

Bydd gan bob person atebion gwahanol, ac mae hynny’n iawn – mae amrywiaeth yn hyfryd. Ond gall deall beth sydd bwysicaf i chi eich helpu i benderfynu pryd a ble mae angen i chi alw ar eich hyder.