Prosiect partneriaeth newydd cyffrous yw Power Up, wedi’i ariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol drwy’r grant Meddwl Ymlaen. 

Platfform yw’r partner arweiniol yn y prosiect, yn gweithio ar y cyd â’r partneriaid canlynol:

 Mae’r prosiect yn cael ei gynnal ledled Caerdydd a Bro Morgannwg, ac rydym yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 10 a 25 mlwydd oed. Nod Power Up yw rhoi pobl ifanc wrth y llyw o ran penderfynu beth sydd ei angen arnyn nhw gan ddarpariaeth iechyd meddwl y dyfodol.   

Rydym yn ein blwyddyn ddatblygu ar hyn o bryd, a byddwn yn defnyddio’r amser hwn i ymgysylltu â phobl ifanc ar draws y rhanbarth, gan gasglu eu straeon, eu syniadau a’u meddyliau ar gyflwr darpariaeth iechyd meddwl fel y mae ar hyn o bryd, a’r hyn yr hoffent ei weld gan ddarpariaeth y dyfodol.   

O fis Medi 2023 hyd fis Medi 2026, byddwn yn darparu darpariaeth cymorth sydd wedi’i ddylunio gan bobl ifanc yn ystod y cyfnod datblygu. 

Gwyddom fod gan Power Up y cyfle i ddylanwadu ar dirwedd iechyd meddwl Cymru am flynyddoedd i ddod. Byddwn yn defnyddio ein hymchwil i ddylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol a lefel y Deyrnas Unedig, gan greu cyfleoedd i bobl ifanc gyfarfod â llunwyr penderfyniadau allweddol. ​  

I gael gwybod mwy, anfonwch ebost atom powerupproject@platfform.org. 

SUT I GYMRYD RHAN YN POWER UP 

Mae llawer o ffyrdd o  gymryd rhan.  

Yn gyntaf, gallet ymuno â’n grŵp cynghorol.  Grŵp yw hwn ar gyfer pobl ifanc rhwng 10-25 mlwydd oed sy’n byw yng Nghaerdydd a’r Fro, ac sy’n dymuno ein helpu i lywio cyfeiriad y prosiect!  Mae’r grŵp yn cwrdd yn fisol i drafod Power Up a rhannu syniadau ar gyfer datblygu. 

Gallet hefyd gymryd rhan mewn cyfweliad gyda’n Hymchwilydd Cyfoedion – byddai’n golygu sgwrs fer am dy brofiadau o gael mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl a beth mae lles yn ei olygu i ti. 

Os mai ysgol neu sefydliad cymunedol ydych chi, buasem wrth ein boddau’n galw heibio i hwyluso gweithdy ymgysylltu.  Mae ein gweithdai yn fforymau i bobl ifanc gael rhannu eu syniadau a’u straeon, a byddwn yn eu casglu i helpu i lywio dyluniad y gwasanaeth a ddarparwn.  

I gymryd rhan yn y prosiect llenwch ein Expression on Interest form

Gwnewch gais cyn 23:59 ar Ddydd Sul Ionawr 15fed 2023