Skip to content

Ynglŷn â Platfform 4YP

Mae Platfform yn elusen iechyd meddwl a newid cymdeithasol sy’n gweithio gyda phobl sy’n profi heriau gyda’u hiechyd meddwl a chymunedau sydd eisiau creu ymdeimlad gwell o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd maen nhw’n byw ynddynt.

Mae gan Platfform 30 mlynedd o brofiad o ddarparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd ledled Cymru, gan weithio ochr yn ochr â gwasanaethau statudol ac mewn cymunedau, gan gefnogi pobl ag amrywiaeth o brofiadau bywyd i gyflawni lles cynaliadwy.

Rydym wedi cynnal prosiectau pobl ifanc ers 2015 yn cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd rhwng 8 a 25 oed, gan weithio’n helaeth mewn partneriaeth â thimau iechyd meddwl lleol, gofal sylfaenol, ysgolion a cholegau, gwasanaethau plant, a sefydliadau trydydd sector i ddarparu cymorth lles wyneb yn wyneb, ar-lein a thrwy adnoddau digidol.

Roedd y gefnogaeth a gefais yn gadarnhaol iawn. Roedd hi’n hawdd siarad â fy ymarferydd lles ac roedd ganddi ddiddordebau tebyg i mi.

Person ifanc

Credwn y dylid adeiladu cefnogaeth lles ar sylfaen o adnabod cryfderau a deall sut y gall profiadau trawmatig lywio bywydau. Rydym yn canolbwyntio ar gerdded ochr yn ochr â phobl ar eu taith tuag at iachâd.

https://www.youtube.com/watch?v=ulwxO9ATMS8