Skip to content

Polisi Preifatrwydd

Pa ddata sydd ei angen arnom

Mae’r data personol rydym yn ei gasglu gennych yn cynnwys:

  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost pan fyddwch yn defnyddio ein ffurflenni cyswllt
  • sut rydych chi’n defnyddio ein safle – er enghraifft, pa ddolenni rydych chi’n clicio arnyn nhw
  • eich cyfeiriad Protocol Rhyngrwyd (IP), a manylion ynglŷn â pha fersiwn o borwr gwe y gwnaethoch ei ddefnyddio
  • gwybodaeth am sut rydych yn defnyddio’r wefan, gan ddefnyddio cwcis a thechnegau tagio tudalennau

Ein sail gyfreithiol dros brosesu’r data hwn yw buddiant dilys.

Pam mae ei angen arnom ni?

Rydym yn defnyddio meddalwedd Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynghylch sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Rydym yn gwneud hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y wefan yn diwallu anghenion y bobl sy’n ei defnyddio a’n helpu i wella’r wefan, er enghraifft gwella’r gallu i chwilio ar y safle.

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am:

  • y tudalennau rydych yn ymweld â nhw ar platfform4yp.org
  • faint o amser rydych chi’n ei dreulio ar bob tudalen platfform4yp.org
  • sut y daethoch chi i’r safle
  • yr hyn rydych yn clicio arno wrth ymweld â’r safle

Nid ydym yn casglu nac yn storio eich gwybodaeth bersonol (er enghraifft eich enw neu’ch cyfeiriad) felly ni ellir defnyddio’r wybodaeth hon i adnabod pwy ydych chi.

Mae Platfform4yp.org hefyd yn casglu data er mwyn:

  • gwella’r wefan drwy fonitro sut rydych yn ei defnyddio
  • casglu adborth i wella ein gwasanaethau
  • ymateb i unrhyw adborth rydych yn ei anfon atom, os ydych wedi gofyn i ni wneud hynny
  • anfon hysbysiadau e-bost at ddefnyddwyr sy’n gofyn amdanynt
  • darparu gwybodaeth i chi am ein gwasanaethau

Rydym yn defnyddio eich enw a’ch cyfeiriad e-bost, os ydych chi wedi’u rhoi i ni, i roi e-gylchlythyr rheolaidd i chi sy’n cynnwys gwybodaeth am ein sefydliad a digwyddiadau sydd ar y gweill.

Beth rydyn ni’n ei wneud gyda’ch data

Mae’n bosibl y bydd y data rydym yn ei gasglu yn cael ei rannu â’n darparwr gwefan a Google Inc. at y dibenion a nodir uchod.

Ni fyddwn yn:

  • gwerthu, rhentu nac yn prydlesu eich data i drydydd partïon
  • rhannu eich data â thrydydd partïon at ddibenion marchnata
  • Efallai y byddwn yn rhannu eich data os bydd yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith – er enghraifft, drwy orchymyn llys neu i atal twyll neu drosedd arall.

Byddwn yn defnyddio unrhyw fanylion enw a cyfeiriad e-bost i roi e-gylchlythyr rheolaidd i chi sy’n cynnwys gwybodaeth am ein sefydliad a digwyddiadau sydd ar y gweill. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion yn fwriadol i unrhyw sefydliad arall ar wahân i mailchimp, y sefydliad rydym yn ei ddefnyddio i reoli ein rhestr bostio.

Dolenni defnyddiol

Am ba hyd rydym yn cadw eich data personol

Byddwn ond yn cadw eich data personol am gyhyd â:

  • bod angen hynny at y dibenion a nodir yn y ddogfen hon
  • bod y gyfraith yn mynnu ein bod yn gwneud hynny
  • Yn gyffredinol, mae hyn yn golygu mai dim ond am o leiaf 1 blwyddyn a dim mwy na 7 mlynedd y byddwn yn cadw eich data personol.

Diogelu preifatrwydd plant

Mae rhai o’r gwasanaethau sy’n cael eu cynnig gan ein prosiectau yn benodol ar gyfer plant. Yn yr amgylchiadau hyn rydym yn dilyn Cod Plant Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth https://www.gov.uk/guidance/child-online-safety-data-protection-and-privacy

Ble caiff eich data ei brosesu a’i storio

Rydym yn dylunio, yn adeiladu ac yn rhedeg ein systemau i wneud yn siŵr bod eich data mor ddiogel â phosibl ar unrhyw adeg, wrth iddo gael ei brosesu ac wrth iddo gael ei storio.

Wrth i’ch data personol gael ei brosesu, mae’n bosibl y bydd yn cael ei drosglwyddo y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Os bydd hynny’n digwydd, bydd pob mesur diogelu technegol a chyfreithiol priodol yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau eich bod yn cael yr un lefel o warchodaeth ag y byddech yn Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Sut rydym yn diogelu eich data ac yn ei gadw’n ddiogel

Mae Platfform4yp.org wedi ymrwymo i warchod preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol. Rydym wedi ymrwymo i leihau’r risg o gamgymeriadau dynol, lladrata, twyllo a chamddefnyddio ein cyfleusterau TG. Rydym yn rhoi gwybod i staff am bolisïau diogelwch ac yn hyfforddi ein gweithwyr i’w rhoi ar waith. Mae’n rhaid i’n staff lofnodi cytundebau cyfrinachedd ysgrifenedig, cael hyfforddiant rheolaidd ar ddiogelu gwybodaeth, a chydymffurfio â pholisïau’r cwmni sy’n ymwneud â diogelu gwybodaeth gyfrinachol. Mae gennym ardystiad Cyber Essentials.

Rydym hefyd yn gwneud yn siŵr bod unrhyw drydydd partïon rydym yn delio â nhw yn cadw’r holl ddata personol maent yn ei brosesu ar ein rhan yn ddiogel.

Eich hawliau chi

Mae gennych yr hawl i ofyn am y canlynol:

  • gwybodaeth am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • copi o’r data personol hwnnw
  • bod unrhyw beth sy’n anghywir yn eich data personol yn cael ei gywiro ar unwaith

Gallwch hefyd wneud y canlynol:

  • mynegi gwrthwynebiad am sut mae eich data personol yn cael ei brosesu
  • gofyn i’ch data personol gael ei ddileu lle nad oes cyfiawnhad dros ei gadw mwyach
  • gofyn am gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau

Os ydych chi eisiau gwneud unrhyw un o’r ceisiadau hyn, cysylltwch drwy ddefnyddio’r dulliau isod.

Cwcis

Ffeiliau llofnod digidol bach yw cwcis sy’n cael eu storio gan eich porwr gwe sy’n caniatáu i’ch dewisiadau gael eu cofnodi wrth i chi ymweld â’r wefan. Efallai y byddant hefyd yn cael eu defnyddio i olrhain eich ymweliadau yn ôl i’r wefan.

Efallai y byddwch yn gallu defnyddio gosodiadau eich porwr i rwystro cwcis ond gallai hyn eich atal rhag cael mynediad at rai o nodweddion y wefan.

Ein Darparwr Gwe

Mae’r gwasanaeth gwe hwn yn cael ei ddarparu ar ein rhan gan 34sp.com, darparwr gwasanaeth yn y Deyrnas Unedig. Mae polisi preifatrwydd y darparwr gwe ar gael yma.

Dolenni i wefannau eraill

Mae Platfform4yp.org yn cynnwys dolenni i wefannau eraill.

Dim ond i platfform4yp.org y mae’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol, ac nid yw’n berthnasol i unrhyw wasanaethau a gwefannau eraill y mae gennym ddolen iddynt. Mae gan y gwasanaethau hyn eu telerau ac amodau a’u polisïau preifatrwydd eu hunain.

Os ewch chi o’r wefan hon i wefan arall, darllenwch y polisi preifatrwydd ar y wefan honno i gael gwybod beth mae’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth.

Dilyn dolen i platfform4yp.org o wefan arall

Os ydych yn dod i platfform4yp.org o wefan arall, efallai y byddwn yn cael gwybodaeth bersonol amdanoch gan y wefan arall. Nid ydym yn defnyddio’r data hwn. Dylech ddarllen polisi preifatrwydd y wefan rydych wedi dod ohoni i gael rhagor o wybodaeth am hyn.

Newidiadau i’r polisi hwn

Mae’n bosibl y byddwn yn newid y polisi preifatrwydd hwn. Os felly, bydd y dyddiad ‘diweddarwyd ddiwethaf’ ar waelod y dudalen hon hefyd yn newid. Bydd unrhyw newidiadau i’r polisi preifatrwydd hwn yn berthnasol i chi a’ch data ar unwaith.

Os bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, byddwn yn cymryd camau rhesymol i roi gwybod i chi.

Cysylltu â ni neu wneud cwyn

Cysylltwch â ni os:

  • oes gennych chi unrhyw gwestiynau am unrhyw beth yn y ddogfen hon
  • ydych chi’n meddwl bod eich data personol wedi cael ei gamddefnyddio neu ei gamdrafod

E-bost: dpo@platfform.org
Rhif ffôn: 01656 647722

Rheolwr TG a Chydymffurfiaeth
Platfform
Beaufort House
Beaufort Road
Abertawe
SA6 8JG

Gallwch hefyd gwyno wrth y Comisiynydd Gwybodaeth, sy’n rheoleiddiwr annibynnol. I gael manylion, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth www.ico.org.uk.

Mae’r cynnwys ar wefan www.platfform4yp.org wedi cael ei greu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc. Mae’r holl gyfranogwyr wedi llofnodi ffurflenni rhyddhau cynnwys er mwyn i Platfform ddefnyddio eu cynnwys yn unol â’r canllawiau yn y polisi hwn.

Diweddarwyd ddiwethaf: Awst 2025