Skip to content

4YP Maniffesto Bach

Yn Platfform, credwn fod iechyd meddwl yn ymwneud â gallu teimlo’n dawel yn ein cyrff, bod yn garedig â ni’n hunain, cael y cyfleoedd i wneud ffrindiau gydag eraill a theimlo ein bod yn perthyn i’r byd o’n cwmpas.

Ein profiadau, a’r amgylchiadau yr ydym yn byw, yn gweithio ac yn chwarae ynddynt, yw’r hyn sy’n achosi inni brofi anawsterau gyda’n hiechyd meddwl.

Mae pobl ifanc wedi llunio 5 mater mawr y maen nhw’n credu y dylid mynd i’r afael â nhw i wella iechyd meddwl a lles babanod, plant a phobl ifanc (a bydd y rhain yn helpu’r gweddill ohonom ni hefyd!).

Os gallwn ni ddatrys y problemau hyn, yna gallwn ni wella ein heichyd meddwl nawr, ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Mae pobl ifanc eisiau i;

  1. Adfer ymdeimlad o gymuned
  2. Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
  3. Diwedd ar dlodi plant
  4. Sicrhau bod gan bawb yr amodau ar gyfer iechyd meddwl da
  5. Diogelu ein planed

Galwad Am Weithredu

Os yw newid yn rhywbeth yr hoffech chi gymryd rhan ynddo, mae gennym ni Manifesto Sign Up Form chi ei llenwi i rannu pa faterion yr ydych chi’n angerddol amdanynt (ynghyd â’ch manylion). Yna gallwn gysylltu a chi ynglŷn a chyfleoedd, digwyddiadau a ffyrdd eraill sydd ar y gweill i chi allu bod yn rhan o wneud gwahaniaeth.

4YP Mini Manifesto