Skip to content

Gwent 4YP

Mae Platfform Gwent4YP yn darparu cefnogaeth iechyd meddwl a lles i bobl ifanc sy’n byw yng Ngwent.

Mae Gwent 4YP yn dod â phobl ifanc, 14 – 18 oed, ynghyd i rymuso ei gilydd trwy ddarganfod profiadau a chysylltiad a rennir. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu sgiliau a dod o hyd i ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw i reoli eu lles er mwyn iddyn nhw gael byw bywydau iachach, hapusach a mwy cyflawn.

Mae ein cefnogaeth yn rhoi cyfle i bobl ifanc rannu eu profiadau ag eraill a allai fod yn wynebu heriau tebyg, ac i ddysgu strategaethau newydd i hyrwyddo eu lles. Nhw sy’n penderfynu pa feysydd lles maen nhw am eu trafod a faint maen nhw am ei rannu.

Mae’n bwysig i bobl ifanc wybod, beth bynnag maen nhw’n ei wynebu, nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain nac wedi’u hynysu. Credwn y gall pŵer cefnogaeth gan gymheiriaid fod yn drawsnewidiol ac rydym yn gweithio i hyfforddi pobl ifanc a hoffai ddod yn fentoriaid cyfoedion.


Beth rydyn ni’n ei gynnig

Rydym yn cynnig amrywiaeth o wahanol fathau o gefnogaeth mewn amrywiaeth o leoliadau yn ardal y pum awdurdod lleol [Caerffili, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent] lle gall pobl ifanc ddysgu a rhannu eu profiadau mewn lleoliad diogel a hamddenol.

Mae’r gwasanaethau canlynol yn sicrhau bod gennym rywbeth i bawb, beth bynnag rydych chi’n ei wynebu. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cefnogaeth un-i-un
  • Cefnogaeth gymdeithasol a chymunedol
  • Gweithdai Ysgolion

Cefnogaeth un-i-un

Mae ein cefnogaeth un-i-un yn digwydd dros chwe sesiwn awr o hyd. Gellir cynnal y sesiwn hon naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein yn dibynnu ar ble mae’r person ifanc yn teimlo fwyaf hyderus. Sylwer nad gwasanaeth cwnsela mo hwn. Rydym yn canolbwyntio ar ddull sy’n seiliedig ar gryfderau i helpu pobl ifanc i ddysgu ffyrdd newydd o reoli eu hiechyd meddwl a’u lles.

Cefnogaeth gymdeithasol a chymunedol

Rydym yn cynnig cyfarfodydd wythnosol a chwarterol a hwylusir gan aelod o’r tîm. Mae’r rhain wedi’u trefnu mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar lle gall pobl ifanc deimlo’n ddiogel, bod yn nhw eu hunain go iawn a chael eu llais eu hunain.

Gweithdai Ysgolion

Law yn llaw â’r gefnogaeth gymunedol a gynhigiwn fel y disgrifiwyd uchod, rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag Ysgolion Uwchradd ledled Gwent i gyflwyno ein grwpiau Meddwl am dy Feddwl yn ystod amser ysgol. Fel rhan o’r gefnogaeth hon, gallwn weithio gyda hyd at ddau grŵp o 15 o bobl ifanc dros gyfnod o chwe wythnos. Os oes gennych ddiddordeb yn ein cefnogaeth, cysylltwch â ni: youngpeople@platfform.org


Sut i atgyfeirio

Os ydych chi’n berson ifanc neu’n weithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda rhywun a allai elwa o’n cefnogaeth, yna gallwch ddefnyddio un o’r llwybrau cyfeirio canlynol i ofyn am gefnogaeth:

Ar gyfer gweithwyr proffesiynol
Gellir gwneud cais am gefnogaeth gan weithwyr proffesiynol ar gyfer person ifanc gan ddefnyddio’r ffurflen gyfeirio hon: Cliciwch yma

Derbynnir cyfeiriadau hefyd drwy Banel Llesiant SPACE. 

Ar gyfer pobl ifanc

Gall pobl ifanc gael mynediad uniongyrchol i’r prosiect drwy ddefnyddio’r ffurflen hunangyfeirio hon y ffurflen atgyfeirio hon

Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein prosiect neu os hoffech i aelod o’r tîm gyfarfod â chi’n lleol i drafod y prosiect yn fanylach.


Cysylltiad

E:youngpeople@platfform.org
T: 01656 647722 / 07436 139075