Skip to content

Power Up (Caerdydd a’r Fro)

Prosiect lles a gweithredu cymdeithasol i bobl ifanc 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg yw Power Up.

Mae’r prosiect yn cynnig cymorth lles cynnar i bobl ifanc sy’n wynebu heriau iechyd meddwl fel hwyliau isel, gorbryder, perthnasoedd a hunan-barch. Mae hyn yn cynnwys sesiynau hyfforddi un ac un, cyflwyno rhaglenni lles Meddwl am dy Feddwl, grwpiau cymdeithasol rheolaidd a gweithgareddau am ddim.


Beth rydyn ni’n ei gynnig?

  • Sesiynau un ac un gydag ymarferwyr lles i unrhyw un rhwng 10 a 25 oed yng Nghaerdydd a’r Fro
  • Grwpiau lles Meddwl am dy Feddwl mewn ysgolion a chymunedau
  • Grwpiau gweithgareddau ychwanegol, fel ysgrifennu blog a grwpiau creadigol
  • Gweithgareddau misol am ddim mewn gwahanol leoliadau
  • Cyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn newid cymdeithasol ar lefelau lleol a chenedlaethol drwy ymatebion i ymgynghoriad, cyfweliadau ac arolygon

Sut mae cymryd rhan?

Ar gyfer pobl ifanc sy’n chwilio am gymorth un ac un

Os ydych chi’n 10-25 oed ac yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg, gallwch gyfeirio eich hun i gael cymorth un ac un gyda Power Up gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio.

Ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Os ydych chi’n cefnogi person ifanc 10-25 oed sy’n byw yng Nghaerdydd neu’r Fro ac yn credu y byddai’n elwa ar gymorth un ac un gan Power Up, gallwch ei atgyfeirio gan ddefnyddio ein ffurflen atgyfeirio.

Os ydych chi’n gweithio mewn ysgol neu grŵp cymunedol ac yr hoffech ofyn am sesiynau lles Meddwl am dy Feddwl ar gyfer y bobl ifanc rydych chi’n gweithio gyda nhw, cysylltwch â PowerUp@platfform.org

Ynglŷn â’r prosiect

Mae Power Up yn brosiect partneriaeth sy’n cael ei arwain gan Platfform a’i gefnogi gan:

  • EYST
  • YMCA Caerdydd
  • iBme UK
  • Llamau
  • ProMo Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
  • Cyngor Caerdydd
  • Cyngor Bro Morgannwg
  • Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Ariannwyd y prosiect gan grant ‘Meddwl Ymlaen’ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac mae’n gweithio’n agos ochr yn ochr â bwrdd cynghori o bobl ifanc 10-25 oed.


Meet The Team

Evee

Swyddog Hyfforddi ac Ymgysylltu

Bex

Swyddog Ymchwil a Pholisi

Maddie

Crëwr Cynnwys Cyfoedion

Cerys

Ymarferydd Lles