Canolfan cymorth iechyd meddwl yw’r Hangout sy’n cynnig cymorth lles, mannau cymdeithasol, digwyddiadau, grwpiau a chyfleoedd gwirfoddoli i bobl ifanc 11-18 oed sy’n galw heibio.
Mae ganddi ganolfannau yn y Barri a Chaerdydd.
Ble i ddod o hyd i ni
Caerdydd
26-28 Ffordd Churchill CF10 2DY
Y Barri
3A Ffordd Tynewydd CF62 8HB
Beth sydd yno?
- Cymorth iechyd meddwl wrth alw heibio (unrhyw bryd y byddwn ar agor!)
- Cymorth iechyd meddwl wedi’i drefnu (os yw’n well gennych wneud apwyntiad)
- Grwpiau lles
- Grwpiau creadigol
- Gwirfoddol
Beth sydd angen i mi ei wneud?
Rydym ar agor rhwng 3pm a 9pm yn ystod yr wythnos, a rhwng 12pm a 6pm ar benwythnosau. Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, gallwch alw heibio a gofyn unrhyw beth rydych am ei wybod.
Ar gyfer cymorth iechyd meddwl, gall unrhyw un sy’n teimlo bod angen ychydig o gymorth arno ddod i siarad â ni, a gyda’n gilydd byddwn yn datrys beth i’w wneud nesaf.
Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli, dewch i siarad â ni am yr hyn sy’n digwydd a phryd, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.
Gwell gennych gynllunio ymlaen llaw?
Os byddai’n haws gennych drefnu apwyntiad ar gyfer unrhyw beth rydyn ni’n ei wneud, mae hynny’n iawn hefyd. Atebwch ychydig o gwestiynau cyflym yma – Yr Hangout – Cael cymorth – a byddwn yn cysylltu.
Os ydych chi’n cael rhywfaint o gymorth iechyd meddwl gan wasanaeth gwahanol, gall y person sy’n gweithio gyda chi yno hefyd gysylltu â ni; anfonwch y dudalen hon ato.
Sut mae cysylltu?
Gallwch ddod i’n gweld ni rhwng 3pm a 9pm. Gallwch hefyd e-bostio hangout@platfform.org neu ffonio 0300 3732717.
Os hoffech apwyntiad am gymorth un ac un, mae yna ychydig o gwestiynau cyflym i’w hateb yma: Yr Hangout – Cael cymorth.
Ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd meddwl
Os ydych chi’n gweithio gyda pherson ifanc 11-18 oed yr hoffech ei gyfeirio atom, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio ein ffurflen yma: Yr Hangout – Cael cymorth i berson ifanc.