Skip to content

Gwent 4YP

Rydym yn gweithio ar draws pum ardal awdurdod lleol Gwent (Caerffili, Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy a Blaenau Gwent) yn cynnig cymorth i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed sy’n wynebu heriau iechyd meddwl.

Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gwybod, beth bynnag sydd o’u blaenau, nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain nac wedi’u hynysu. Mae pobl ifanc sy’n rhan o’n prosiect yn cael cyfle i hyfforddi i fod yn Hyrwyddwyr Adferiad a Mentoriaid Cyfoedion Gwirfoddol.


Beth rydyn ni’n ei gynnig

Rhaglen 10 wythnos Meddwl am dy Feddwl:

Gan weithio dros 10 wythnos, rydym yn archwilio pwnc gwahanol bob wythnos a fydd yn helpu i hyrwyddo lles ac ymreolaeth pobl ifanc.

Mae’r deg sesiwn yn cynnwys: ymwybyddiaeth ofalgar, cadw’n heini, meithrin cyfeillgarwch, byw’n iach, meddwl yn gadarnhaol, estyn allan, helpu eraill, bod yn drefnus, arferion cysgu iach a gosod nodau realistig a chyraeddadwy.

Grwpiau cymorth cyfoedion:

Mae grwpiau cymorth cyfoedion yn cynnig cyfarfodydd wythnosol wedi’u hwyluso gan aelod o’r tîm ac un o’n mentoriaid cyfoedion hyfforddedig. Caiff y rhain eu trefnu mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar lle gall pobl ifanc deimlo’n ddiogel, bod yn eu hunain go iawn a mynnu eu llais eu hunain.

Gweithdai

Mae’r rhain yn cynnwys ymwybyddiaeth am iechyd meddwl, rheoli emosiynau, hunan-barch a hunan-gariad, ymwybyddiaeth ofalgar a mwy.


Sut i atgyfeirio

Ar gyfer pobl ifanc

Gall pobl ifanc 14-18 oed gyfeirio eu hunain at y prosiect yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’r ffurflen hunangyfeirio hon.

Ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Gellir gwneud cais am gymorth gan weithwyr proffesiynol i berson ifanc gan ddefnyddio’r ffurflen atgyfeirio hon. Derbynnir atgyfeiriadau hefyd trwy Banel Lles SPACE.


Cyswllt

E: youngpeople@platfform.org

T: 01656 647722 / 07436 139075

Meet The Team

Luke Rees

Rheolwr gwasanaeth arweiniol ar gyfer Cymorth Cymunedol Gwent a CTM

Katie

Ymarferwr Lles

Lauren

Ymarferwr Lles

Georgina

Ymarferwr Lles