Cysylltu â phobl eraill. Cael cefnogaeth iechyd meddwl. Dod o hyd i gyfleoedd.

Rydym wedi agor canolfan newydd yng Nghaerdydd, rydym yn ei alw’n Yr Hangout. Ei gyfeiriad yw 26-28 Ffordd Churchill.

Mae’n lle i chi gwrdd â phobl eraill, cael cefnogaeth iechyd meddwl, dod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli, a chymryd rhan mewn grwpiau a allai helpu i roi hwb i’ch lles.

Mae’n addas i unrhyw un 11-18 oed.

Beth sydd yno?

· Cefnogaeth iechyd meddwl galw heibio (unrhyw bryd rydym ar agor!)

· Cefnogaeth iechyd meddwl wedi’i threfnu (os byddai’n well gennych wneud apwyntiad)

· Grwpiau lles

· Grwpiau creadigol

· Gwirfoddoli

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Rydym ar agor 3pm – 9pm bob dydd, yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau, gan gynnwys gwyliau banc. Ar gyfer y rhan fwyaf o bethau, gallwch fynychu heb drefnu ymlaen llaw a gofyn unrhyw beth yr hoffech ei wybod.

Ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, rydym yn ceisio peidio â chael pethau fel rhestrau aros hir – gall unrhyw un sy’n teimlo fel bod angen rhywfaint o gefnogaeth arnynt ddod i siarad â ni, ac â’n gilydd byddwn ni’n gweithio allan beth i’w wneud nesaf.

Ar gyfer grwpiau lles, grwpiau creadigol neu wirfoddoli, dewch i siarad â ni am beth sy’n digwydd a phryd, neu cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion isod.

Yn well gennych gynllunio ymlaen llaw?

Os byddai’n haws i chi wneud apwyntiad ar gyfer unrhyw beth a wnawn, mae hynny’n iawn hefyd. Atebwch nifer fach o gwestiynau cyflym yma – Yr Hangout – Cael cefnogaeth (i bobl ifanc) – a byddwn mewn cysylltiad.

Os ydych chi’n cael rhywfaint o gymorth iechyd meddwl gan wasanaeth gwahanol, gall yr unigolyn rydych chi’n gweithio â nhw gysylltu â ni hefyd; anfonwch y dudalen hon atynt.

Sut ydw i'n gwneud cyswllt?

Gallwch ddod i’n gweld rhwng 3pm a 9pm, unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Gallwch hefyd anfon neges e-bost hangout@platfform.org (dwy Fs) neu ffonio 07811 375417.

Os dymunwch wneud apwyntiad ar gyfer cefnogaeth un i un, mae yna nifer fach o gwestiynau cyflym i’w hateb yma: Yr Hangout – Cael cefnogaeth (i bobl ifanc) 

Ar gyfer staff y gwasanaeth iechyd meddwl

Os ydych chi’n gweithio ag unigolyn ifanc 11-18 oed yr hoffech ei gyfeirio/chyfeirio atom, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio ein ffurflen yma: Yr Hangout – cael cefnogaeth i unigolyn ifanc (i’r rheiny sy’n gweithio â phobl ifanc)

Pwy sy'n ei redeg?

Platfform ydym ni, elusen iechyd meddwl ac mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ariannu’r Hangout.

Rydym yn gwneud llawer o bethau mewn perthynas ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Nid ydym yn hoffi pan fydd pobl ifanc yn cael gwybod beth sydd ei angen arnynt yn syml, neu fod rhywbeth ‘o’i le’ â nhw. I ni, mae’n bwysig iawn gwrando ar bobl, clywed beth maent yn ei ddweud wrthym, a gweithio â phob unigolyn i ddarganfod â’n gilydd pa bethau fydd yn helpu mewn gwirionedd.

Rydym hefyd yn dwlu ar gysylltiad, oherwydd ein bod yn gwybod y gall ynysiad fod yn beth anodd iawn i les. Dyna pam, yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl, mae gan Yr Hangout grwpiau a ffyrdd eraill i chi gyfarfod â phobl.

Rydym yn gweithio’n agos â gwasanaethau eraill y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn eu rhedeg sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae hyn yn golygu ein bod yn gallu siarad â’n gilydd i wneud yn siŵr eich bod yn cael y gefnogaeth orau bosibl. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â gwasanaethau eraill os credwn y bydd yn eich helpu chi neu os dymunwch i ni wneud hynny, ond ni fyddwn byth yn rhannu ag unrhyw un nad oes angen iddo/iddi wybod. Gallwch ddarllen mwy am sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn ein taflen rhannu data.

Gallwch ddarganfod mwy am yr hyn y mae Platfform yn ei wneud yn https://platfform.org/projects/life-work-and-wellbeing/young-people/

Gwirfoddoli gyda'r Hangout

Rydyn ni’n falch o gynnig cyfleoedd gwirfoddoli yn yr ‘Hangout’ i bobl sydd â phrofiad ym maes iechyd meddwl, seicoleg, sydd wedi gweithio gyda phobl ifanc neu sy’n frwd dros helpu pobl.

Mae’r Hangout ar agor rhwng 3pm a 9pm, gan gynnig shifftiau hanner diwrnod neu ddiwrnod llawn yn dibynnu pryd rydych chi ar gael. Rydyn ni’n chwilio am ddau wirfoddolwr brwdfrydig bob dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gefnogi pobl ifanc a chynnal gweithgareddau hwyliog ar eu cyfer fel celf a chrefft, gemau, chwaraeon, sesiynau lles ac ati.

Byddai gwirfoddoli gyda ni yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau er mwyn cefnogi pobl ifanc sydd â heriau iechyd meddwl, darparu sesiynau lles a gweithgareddau, meithrin gwybodaeth broffesiynol, magu hyder wrth ddelio ag amrywiaeth o amgylchiadau, gweithio mewn tîm amlddisgyblaethol a chymryd rhan mewn ymarfer myfyriol. Hefyd, os oes gennych chi unrhyw nodau gyrfa penodol, gallwn helpu i gefnogi eich datblygiadau gyrfa, eich ceisiadau a’ch rhwydwaith yn ehangach yn Platfform.

Gallwn hefyd gynnig lleoliadau i fyfyrwyr a fyddai’n dymuno cael profiad mewn lleoliad iechyd meddwl sy’n gweithio gyda phobl ifanc.

Darllenwch fwy am ein cyfleoedd gwirfoddoli yma.